Platfform Amazon sy’n cynnig gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl y mae modd cynyddu ei faint.
Casgliad o fodelau sy’n cael eu defnyddio ym maes dysgu peirianyddol sy’n defnyddio cyfres o niwronau artiffisial i nodi patrymau yn y data dan sylw.
Caiff BoW ei ddefnyddio i symleiddio’r modd y mae brawddeg wedi’i chynrychioli. Mae modelau BoW yn anwybyddu strwythur semanteg brawddeg, y gramadeg a threfn y geiriau, ond caiff lluosogrwydd geiriau ei storio.
Dyma ddull sy’n cymryd tebygolrwydd log model ac yn neilltuo cosb iddo am nifer y paramedrau y mae’n rhaid eu hamcangyfrif.
Mae gan weithredwr economaidd neu arloesol fantais gymharol dros eraill mewn gweithgaredd (e.e. diwydiant neu bwnc ymchwil) os gall gynhyrchu allbynnau yn fwy effeithlon. Yn yr Arloesiadur, lluniwn brocsi ar gyfer hyn gan ddefnyddio mynegeion cystadleurwydd sy’n ystyried pa mor gryf mae maes neu sector wedi’i gynrychioli mewn lleoliad o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Os yw maes neu sector wedi’i gynrychioli’n gryfach na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (mynegai cystadleurwydd yn fwy nag 1), tybiwn fod y lleoliad yn gystadleuol ynddo.
Dyma fesur o’r tebygrwydd rhwng dau fector ansero cynnyrch gofod mewnol sy’n mesur cosin yr ongl rhyngddynt.
Dosraniad tebygolrwydd y radd rhwng holl nodau rhwydwaith.
Mae unigrywiaeth economaidd sector yn adlewyrchu ei duedd i ymddangos mewn nifer fach o leoliadau economaidd gymhleth yn y Deyrnas Unedig, ar sail data sy’n clystyru’n ddaearyddol. Mae’r gwerth hwn yn adlewyrchu i ba raddau y mae’r sector yn galw am amrywiaeth eang o alluoedd lleol i fod yn gystadleuol, ac felly mae’n anodd i leoliadau eraill ei ddynwared.
Caiff GMM ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng is-boblogaethau set fwy. Mae GMM yn tybio y cynhyrchwyd y pwyntiau data o gymysgedd o ddosraniadau Gauss sydd â pharamedrau anhysbys a gaiff eu brasamcanu gan ddefnyddio algorithm Disgwyliad-Eithafiad (Expectation-Maximisation – EM).
Mae gennym ddiwydiannau segmentiedig wedi’u cydrannu ar lefel uchel (codau 4-digit Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) i mewn i 76 o ddiwydiannau manwl ar sail eu tuedd i fod wedi’u lleoli yn yr un lleoedd, recriwtio pobl yn yr un galwedigaethau, a masnachu â’i gilydd. Rydym wedyn yn cydgrynhoi’r 76 diwydiant manwl hyn i 4 sector cyfanredol.
Categori o gyfrifiadura cwmwl sy’n darparu adnoddau cyfrifiadura rhithwir dros y we.
Model cynhyrchiol a all ddod o hyd i bynciau cudd wedi’u cynnwys mewn dogfen, lle mae pob pwnc yn ddosraniad o eiriau.
Y gwerth mewn punnoedd sydd i brosiect ymchwil a gyllidir gan gynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig yn ôl data’r Porth Ymchwil. Y mae’n bwysig nodi mai ar lefel prosiect yn unig, ac nid ar lefel sefydliadol, y mae data cyllido ar gael. Mae hyn yn golygu, pryd bynnag y cyfeiriwn at gyllido yn ein delweddau ymchwil, cyfeirio a wnawn at y cyllid a ddyfarnwyd i brosiectau sy’n cael eu harwain gan sefydliadau yng Nghymru neu’n cynnwys sefydliadau yng Nghymru, yn hytrach na symiau’r cyllid sy’n mynd i Gymru.
Mae hyn yn mesur y gwahaniaeth rhwng dau ddilyniant llinyn. Mae’n cyfrifo nifer y mewnosodiadau, dileadau ac amnewidiadau sy’n rhaid eu gwneud er mwyn newid gair i air arall.
Coeden rychwantu lle y caiff yr ymylon â’r pwysau uchaf eu cadw.
Y cyflog canolrifol a enillir gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant hwnnw, yn seiliedig ar ddata yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.
Grŵp a grewyd ar Meetup.com sydd fel arfer ag iddo thema benodol ac sy’n trefnu digwyddiadau. Gall defnyddwyr ymuno â grwpiau Meetup, cymryd rhan mewn digwyddiadau ac ymuno a thrafodaethau.
Mae tagiau yn nodweddu gweithgareddau allweddol grŵp Meetup. Mae’n rhaid i bob trefnwr grŵp Meetup ddarparu rhai tagiau sy’n disgrifio’r grŵp.
Dilyniant di-dor o N o elfennau o ddarn penodol o destun.
Nifer y cysylltiadau sydd gan nod.
Estyniad i word2vec sy’n dysgu cydberthynas nid yn unig geiriau â geiriau, ond hefyd tagiau â geiriau.
Categori o gyfrifiadura cwmwl sy’n rhoi i’r defnyddwyr y gallu i greu a rhedeg apiau heb y gost o adeiladu a chynnal y seilwaith.
Defnyddiom ddata hanesyddol ar weithgarwch busnes fesul sector a phrif ardal, ynghyd â data ar lefelau addysg a chymhlethdod economaidd i hyfforddi model sy’n rhagfynegi’r tebygolrwydd y bydd prif ardal yn magu arbenigedd busnes mewn diwydiant. Mae’r model yn creu tebygolrwydd i bob diwydiant rhwng 0 ac 1. Mae’r sectorau wedi’u dosbarthu fel bod y rhai sydd â thebygolrwydd uwch na 0.75 mewn categori ‘tebygolrwydd uchel’, sectorau uwch na 0.5 mewn categori ‘tebygolrwydd canolig’, a sectorau o dan 0.5 mewn categori ‘tebygolrwydd isel’.
Mae ein dadansoddiad is-genedlaethol yn canolbwyntio ar 22 o brif ardaloedd; daearyddiaeth swyddogol sy’n adlewyrchu strwythurau llywodraeth leol yng Nghymru.
Dilyniant o symbolau a nodau i chwilio amdano mewn darn o destun.
Y ddisgyblaeth eang y dosbarthwn brosiect ymchwil arni ar sail model rhagfynegol sy’n rhoi ystyriaeth i’r testun yn ei grynodeb a’r cyngor ymchwil a gyllidodd y prosiect.
Parth manwl o ymchwil oddi mewn i faes ymchwil, a gaiff ei nodi gennym gan ddefnyddio prosesu iaith naturiol a dulliau datgelu cymunedol.
Dyma ddull i ddilysu cysondeb a gwerthuso pa mor optimaidd yw’r grwpiau a grewyd gan dechneg clystyru.
Categori o gyfrifiadura cwmwl sy’n darparu meddalwedd i’r defnyddwyr ar sail tanysgrifiad.
Is-graff rhwydwaith digyfeiriad sy’n cynnwys holl nodau’r graff gwreiddiol a lleiafswm nifer yr ymylon.
Termau cyffredin nad ydynt yn rhoi unrhyw ddealltwriaeth o gynnwys brawddeg.
Algorithm lleihau dimensiynedd aflinol sy’n benodol o dda ar frasamcanu’r pellter rhwng pwyntiau wrth eu trosglwyddo o ofod aml-ddimensiynol i 2D.
Mae pwnc yn gasgliad o dagiau Meetup y gellir eu canfod mewn cyd-destun tebyg neu a ddefnyddir i ddisgrifio’r un peth. Yn ein dadansoddiad ni, rydym wedi creu hierarchaeth o bynciau. I gychwyn, crëwyd 42 o is-gategorïau, a gydgrynhowyd wedyn i 9 pwnc eang.
Mae TF-IDF yn bwysau a ddefnyddir i werthuso pwysigrwydd gair mewn dogfen corff. Mae’r rhan gyntaf, TF, yn dangos amlder crai gair mewn dogfen, ac mae’r ail, IDF, yn mesur pa mor aml y defnyddir y gair ar draws y corff
Tocynnau yw’r endidau ystyrlon o leiafswm hyd a gaiff eu creu wrth hollti darn o destun yn rhannau. Er enghraifft, mae ymadroddion, symbolau, geiriau, rhifau ac atalnodi yn rhai tocynnau sy’n gyffredin i gael eu creu. Yn yr Arloesiadur, tocynnau yw’r tagiau a broseswyd ymlaen llaw ac a ddefnyddir gan grwpiau Meetup.
Rhwydwaith newral bas sy’n trawsnewid geiriau yn fectorau. Ei nod yw rhagfynegi gair, o wybod ei eiriau cyd-destunol. O ganlyniad, gall nodi cysylltedd ieithyddol geiriau a chanfod y tebygrwydd rhyngddynt.