Arloesiadur: beth rydym wedi’i wneud ac wedi’i ganfod

Juan Mateos-Garcia | June 19, 2017

Data newydd ar gyfer polisi arloesi yng Nghymru

Mae'r Arloesiadur yn waith ar y cyd rhwng Nesta a Llywodraeth Cymru i fapio arloesi yng Nghymru. Mae'r prosiect yn seiliedig ar y gred bod data newydd, wedi'u dadansoddi a'u cyflwyno mewn ffyrdd newydd, yn gallu creu gwybodaeth werthfawr i lunwyr polisïau arloesi. Mae hyn yn cynnwys ffynonellau gwe, megis gwefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol i gwmnïau sy'n gyfoethocach ac yn fwy amserol na ffynonellau data swyddogol, technegau dysgu peirianyddol a phrosesu iaith naturiol sy'n gallu cynhyrchu rhagfynegiadau yn ogystal â disgrifiadau, a'n helpu i ddeall tomenni o destun, a delweddu data rhyngweithiol a setiau data agored sy'n grymuso defnyddwyr i ateb eu cwestiynau eu hunain a chynnal eu dadansoddiad eu hunain.

Arbrawf yw'r Arloesiadur i brofi gwerth y dulliau newydd hyn: rydym wedi cwmpasu anghenion llunwyr polisïau arloesi Cymru, wedi cynnal cynlluniau peilot hyblyg i archwilio potensial gwahanol setiau data - gan gynnwys setiau data swyddogol ynglŷn â gweithgarwch diwydiannol, data agored ynglŷn ag ymchwil a data gwe ynglŷn â rhwydweithio technolegol - ac rydym nawr yn cyflwyno'r canlyniadau yn y delweddau rhyngweithiol ar y wefan hon, a ddatblygwyd ar y cyd ag infogr8, asiantaeth cynnwys gweledol.

Beth rydym wedi’i ganfod?

Canfyddiadau: Ymateb i heriau economaidd Cymru drwy arloesi

Mae ein gwaith wedi'i ysgogi gan y ffaith bod Cymru'n wynebu heriau economaidd sylweddol, megis cynnyrch domestig gros isel y pen a chynhyrchiant isel. Mae angen arloesi i ateb yr heriau hyn, a dangosir hyn mewn dwy strategaeth allweddol - Arloesi Cymru (2014), a Gwyddoniaeth Cymru (2012) - a llu o ymyriadau polisi gan gyrff amrywiol, o gyfranogiad Cymru yn rhaglen REAP yr MIT, Bargen Ddinesig Caerdydd a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Campws Gwyddoniaeth Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac amryw o fentrau i sbarduno arloesi digidol ac entrepreneuriaeth, gan gynnwys gwaith yr Alacrity Foundation yng Nghasnewydd.

Mae ein dadansoddiad o ddata economaidd yn dangos bod Cymru eisoes yn gystadleuol mewn llawer o ddiwydiannau Gweithgynhyrchu gwybodus sy'n ychwanegu llawer o werth, megis Awyrofod neu Offerynnau, yn ogystal â sectorau sy'n ymwneud â'r economi werdd megis Ynni a Gwasanaethau Amgylcheddol (gan gynnwys ailgylchu a chasglu a thrin gwastraff peryglus) a ddylai fod yn bwysicach yn economi gynaliadwy'r dyfodol. Rydym wedi canfod coridor o weithgarwch Gweithgynhyrchu rhwng y Gogledd-orllewin a Bae Bryste sydd wedi ychwanegu bron i 7000 o swyddi rhwng 2010 a 2015 (cynnydd o 12.5%).

Mae Cymru hefyd yn datblygu cryfderau newydd mewn sectorau gwybodus a chreadigol megis ymchwil a dylunio, gwasanaethau creadigol, cyfrifiadura a gwasanaethau busnes gwybodus - fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn yn ymwneud â sefydliadau entrepreneuraidd bach yn hytrach na chyflogwyr mawr. Yn 2015, roedd busnesau yn y sectorau hyn yn cynrychioli 6.5% o fusnesau Cymru (20% yn fwy nag yn 2010), ond dim ond 1.5% o gyflogaeth yng Nghymru. Sut y gellir cynorthwyo'r busnesau newydd creadigol a digidol sy'n ymddangos ledled Cymru ar hyn o bryd i gynyddu eu maint, a pha gysylltiadau y gellid eu ffurfio rhwng y rhain a sectorau eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr llwyddiannus yn bellach i'r gogledd, i gyflymu'r broses o fabwysiadu technolegau Diwydiant 4.0 (gan gynnwys Rhyngrwyd Pethau, gweithgynhyrchu atodol a seilwaith seiberddiogelwch) yng Nghymru?

Mae ein dadansoddiad o'r Porth Ymchwil, set ddata agored ynglŷn ag ymchwil a ariennir yn gyhoeddus, a data gwe o Meetup.com, platfform a ddefnyddir gan gymunedau technoleg i drefnu digwyddiadau rhwydweithio a rhannu sgiliau, yn cefnogi'r syniad bod gan Gymru y sail wybodaeth a'r cymunedau arloesi i wireddu'r addewid hwn. Yn benodol, mae ein dadansoddiad o dueddiadau ymchwil yn awgrymu bod cryfderau'n tyfu mewn meysydd ymchwil sy'n gysylltiedig â'r chwyldro data megis roboteg a seiberneteg, prostheteg, roboteg ac iechyd, biowybodeg, ystadegau a dadansoddi data, a diogelwch. Yn 2015 a 2016, rhoddodd cynghorau ymchwil bron i £5m i brosiectau dan arweiniad sefydliadau o Gymru. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys defnyddio dysgu dwfn i ddelweddu celloedd, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, datblygu robotiaid sy'n dysgu drwy chwarae ym Mhrifysgol Aberystwyth, neu rwydwaith i wella dadansoddiadau data mawr ar gyfer ymchwil i blanhigion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae gweithgareddau cyfarfod â phynciau sy'n gysylltiedig â'r chwyldro data, gan gynnwys data mawr, gwyddor data a dysgu peiriant yn faes arall lle mae Cymru'n arbennig o gystadleuol; mae 8 grŵp gweithgar a 1741 o gyfranogwyr mewn 264 o ddigwyddiadau cysylltiedig â data, a phobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig yn dod i Gymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae pobl wedi bod yn sôn ers peth amser am glwstwr o arloesi ym maes data yn Ne Cymru, ac mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod y clwstwr hwn yn realiti.

Un her gyson i lunwyr polisïau arloesi yw ymdrin â ‘methiannau'r system arloesi’ - y ffaith na fydd pobl â galluoedd cyflenwol (e.e. busnesau â phroblem ac ymchwilwyr â datrysiad, neu dechnolegwyr â gwybodaeth y gellid ei chyfuno i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd) o reidrwydd yn siarad â'i gilydd, neu hyd yn oed yn eu hadnabod ei gilydd. Er bod ein dadansoddiad yn dynodi bod cysylltedd a thrawsbeilliad yn digwydd rhwng gwahanol sefydliadau ymchwil a chymunedau technoleg yng Nghymru, a bod 283 o sefydliadau ymchwil yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn prosiectau â sefydliadau eraill o Gymru yn y 3 blynedd ddiwethaf (45% yn fwy nag yn y 3 blynedd flaenorol), a ZZ o bobl wedi mynychu cyfarfodydd y tu allan i'r brif ardal yr oeddent yn preswylio ynddi yn 2016, mae sefydliadau'n dal i dueddu i chwilio am gydweithwyr sy'n agos atynt: roedd traean o'r cydweithrediadau ymchwil a welsom o fewn yr un brif ardal; hefyd, nid yw busnesau gweithgynhyrchu yng Ngogledd-orllewin Cymru'n gwneud llawer o gydweithredu ymchwil, er gwaethaf cryfderau diwydiannol yr ardal. Rydym yn gobeithio y gall ein delweddau rhyngweithiol gynyddu gweladwyedd y gweithgareddau ymchwil sydd eisoes yn digwydd ac annog mwy o gydweithredu, a chydweithredu gwell, yn y dyfodol.

Un cwestiwn sydd heb ei ateb ar gyfer Cymru (a llawer o economïau eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt) yw sut i ddatblygu economi arloesol, wybodus, sydd o fudd i bawb, yn hytrach nag economi 'siâp awrwydr' â nifer bach o bobl mewn swyddi cynhyrchiol ac arloesol sy'n talu'n dda, a'r rhan fwyaf o bobl mewn swyddi cyffredin â thâl isel. Mae ein dadansoddiad o'r sefyllfa yng Nghymru'n awgrymu y gallai hyn fod yn broblem. Mae'r segment cyflogaeth mwyaf yng Nghymru ar y gris isaf o ran cyflog, ac mae'r segment hwn wedi tyfu 5% ers 2011. Yng Nghaerdydd, roedd 41,000 o bobl - bron i 20% o'r gweithlu - yn gweithio mewn diwydiannau sydd yn y 30% uchaf o ran canolrif cyflog. Mae hyn yn llai na hanner y nifer sy'n gweithio yn y 30% isaf (89,000 o bobl). Mae ein dadansoddiad rhagfynegi'n awgrymu y bydd arbenigedd busnes Caerdydd yn cynyddu yn rhai o'r swyddi sy'n talu orau ac yn rhai o'r swyddi sy'n talu leiaf, sy'n awgrymu bod yr economi'n mynd yn fwy anghydradd. Eto, mae hyn yn gofyn cwestiynau pwysig am bolisi: pa ymyriadau (gan gynnwys ar gyfer polisïau cyllid a sgiliau) a all helpu i gydbwyso economi Cymru tuag at strwythur mwy cydraddol, a beth y gellid ei wneud i wella cynhyrchiant - a chyflogau - cyflogwyr pwysig sy'n talu cyflog isel megis logisteg, gwasanaethau preswyl neu adwerthu i ddefnyddwyr?

Arbrofi, ailadrodd a rhannu

Mae ein gwaith hyd yn hyn yn awgrymu y gall ffynonellau data a dulliau newydd gynhyrchu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer polisi arloesi. Nawr, mae angen i ni fonitro sut y mae llunwyr polisïau'n defnyddio'r rhain, a chanfod y prosesau, y sgiliau a'r offerynnau polisi y mae eu hangen er mwyn cynyddu eu heffaith.

Mae angen i ni hefyd fyfyrio ar wersi ein hymchwil: er enghraifft, ni lwyddodd un o'n cynlluniau peilot data o fewn cyfnod y prosiect, lle'r oeddem yn defnyddio data gwefan cwmni fel 'caseg eira' i ffurfio rhwydwaith o gwmnïau arloesol. Mae un arall, lle'r ydym wedi 'crafu' gwefannau busnesau o Gymru a dadansoddi eu cynnwys i ddeall yr hyn y maent yn ei wneud, wedi methu â rhoi canlyniadau mewn pryd i'w cynnwys yn y delweddau data rhyngweithiol (er ein bod wedi ysgrifennu blog amdano yma, a rhyddhau'r data yma). 

Rydym yn agored am y pethau hyn er mwyn i bobl eraill allu dysgu o'n harbrofion. Mae’n bwysig nodi hefyd nad yw'r wefan, fel yr ydym yn ei lansio heddiw, yn 'orffenedig'. Byddwn yn adnewyddu'r data maes o law, ac yn chwilio am ffyrdd i’w hategu â ffynonellau data a delweddau newydd yn y dyfodol. Rydym yn gwneud cymaint o god a data'n agored â phosibl i ganiatáu adolygiad cymheiriaid o'r hyn yr ydym wedi'i wneud, a'ch galluogi chi i adeiladu arno. Gallwch rannu'r hyn a ddarganfyddwch am arloesi yng Nghymru yn yr adran Storïau.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn.

Yn ôl i'r brig